Y gyfrol Gymraeg gyntaf i'w gosod ar y we fyd-eang - Rhagfyr 1996.

Robin Llwyd ab Owain: y bardd cyffrous

Enw gwreiddiol y gyfrol oedd 'Rebel ar y We'.
Newidiwyd 22 Mai, 2006.

Caneuon   Cerddi   Adref

 

Dolenau Mewnol
Mae'r wefan hon bron yn:
12 oed !

Cyfrol o gerddi

www.barddoniaeth.com
gan y rebel
robin llwyd ab owain

'Tra bo dau bydd trwbadwr...'

Cartref

Dolenau Mewnol Sonedau TH Caneuon Plonc Dolenau Allanol

 

Y Gynghanedd: '...gyfoes ac oesol...'

 
Barn, Medi, Hydref a Thachwedd 1979 - Y Gynghanedd yn yr Ysgol Uwchradd
Y Faner 31 Awst, 1979
Barddas, Chwefror 1985
Y Faner, Mehefin 28, 1985
Y Faner, Rhagfyr 5, 1986
Y Faner, 10.8.91:
Barddas, Hydref 1991
Barddas, Mehefin 1994
Barddas, Chwefror, 1997


Barn, Medi, Hydref a Thachwedd 1979 - Y Gynghanedd yn yr Ysgol Uwchradd

Y Gynghanedd yn yr Ysgol Uwchradd

 

 

Y Faner (31 Awst, 1979)


Ateb Jennie Eirian yn Y Faner (31 Awst, 1979). Y cwestiwn a ofynodd oedd "Sut rydych chi'n teimlo ynglyn a Chymru - digalon neu obeithiol?"

I mi, nid yw 'digalon' yn gwbwl groes i 'gobeithiol'; 'anobeithiol' yw negydd 'gobeithiol'. Pe dywedwn fy mod yn anobeithiol ynglyn a Chymru, yna afraid fuasai ymegnio i geisio ymestyn oes y Gymraeg - ac nid ymdrafferthwn hyd yn oed i sgwennu'r ychydig eiriau hyn!
Pe dywedwn fy mod yn 'obeithiol', yna eisteddwn yn ol heb godi bys - a byw mewn paradwys ffwl. Dyma i mi yw'r ddau begwn eithaf - y pesimist a'r optimist - ag i'r ddau yr un nodwedd - difaterwch.
...Digalon-obeithiol ydwyf i ynglyn a Chymru.


horizontal rule



Barddas, Chwefror 1985:

 
Darllenais 'Colofn Gwilym R' 'Beth yw canu cyfoes?' yn rhifyn Tachwedd o Barddas....
Mae'n awgrymu dau beth yn ei golofn. Yn gyntaf, y dylai'r testun fod yn gyfoes ('arfogaeth niwclear ayb'). Yn ail, idiom y canu, 'Dylai arddull y beirdd ddangos eu bod yn gyfarwydd ag arddull beirdd cyfoes o wledydd eraill.'
Yr hyn mae'n ei ddweud mewn gwirionedd yw fod arddull anghymreig yn un o hanfodion canu cyfoes! A rhagddo i drafod Gwyn Thomas am ran helaeth o'r golofn, fel pe bai o'n enghraifft unigryw o fardd cyfoes. O dderbyn diffiniad Mr Jones, yna cytunwn i'r carn ag o; mae Gwyn Thomas yn ddall i holl egwyddorion, arddull a holl draddodiadau ein barddoniaeth ni. A gresyn yw gweld y genhedlaeth hyn hon (cenedlaeth Gwilym R Jones a Gwyn Thomas) yn gorseddu rwts estronol ar draul beirdd cyfoes go iawn. Beirdd ifanc sy'n rhoi gwin eu barddoniaeth yn hen gostreli'r gynghanedd. Nid fel Mr Thomas....
Mae gan y genhedlaeth iau neges, ac nid ei gweithio ar ffurf englyn yn unig a wnawn (a'i chyhoeddi i gynulleidfa gyfyng Barddas) ond ei bloeddio o lwyfannau pop a thrwy'r cyfryngau. Nid defnyddio swydd darlithydd i gyhoeddi ffiloreg estronol, ond impio'r gynghanedd a chanu modern yn ei gilydd a bloeddio'r cerddi i bob copa walltog. Canu syml, canadwy ar gynghanedd - rocynghanedd!
Un ol-nodyn i ddiweddu. Yn fy marn i, mae math arall o ganu cyfoes yn bodoli - nas trafodwyd gan Mr Jones, sef cerddi 'Yn Nydd yr Anghenfil', Alan Llwyd ayb. Perchir y gynghanedd, glynir at draddodiadau a delir yn drylwyr a phroblemau enbyd bywyd. Canu cyfoes.
 

 

horizontal rule

 
 

Y Faner, Mehefin 28, 1985

Rhywbeth i'r glust yw'r gynghanedd, yn union fel hylif-clust ('eardrops'). Dyna yw ei 'raison d'etre'. Digon teg, felly, yw gofyn (yn yr hinsawdd dechnolegol hon) pam nad ar gasetiau y cyhoeddir gweithiau cynghaneddol, yn ogystal ag ar gyfrolau papur? Y peth agosaf at hyn (ar wahan i ddarlleniadau beirdd fel Cynan ar record) yw'r recordiau a chasetiau o weithiau cynganeddol ar Gerdd Dant. Ond fel y Gymdeithas Gerdd Dafod, mae'r Gymdeithas Gerdd Dant hithau'n gyfyngedig ei hapel - i'r detholedig-freintiedig rai.
Mae'n wir fod gan y ddwy gymdeithas eu slotiau ar y 'cyfryngau': Talwrn y Beirdd i'r naill a'r Wyl Gerdd Dant i'r llall. Ond a ydynt, mewn difri calon yn poblogeiddio'r gynghanedd? Ar wahan i hyfforddi carfanau o ieuenctid yn y ddwy grefft, nid ydynt yn poblogeiddio'r gynghanedd: rhoi llwyfan i farddoniaeth a chan yw eu nod, a cheir llwyddant yn hynny o beth. Sefyllfa statig.
Mae angen chwistrelliad o adrenalin bywiol ar y gynghanedd neu mi fydd hi'n crogi ar fachyn mewn amgueddfa. Yr offeryn cryfaf i boblogeiddio unrhyw beth dan haul yw'r cyfryngau. Braf oedd gweld teledu 'Talwrn y Beirdd'; chwistrelliad i'r hen geiliog! Ond eto, yr un fydd y gynulleidfa - Mr a Mrs Jones, Ty Capel (efallai?) a hen stejars cyffelyb.
Os gwelwn ni fyth ddadeni yn y gynghanedd, yna plant 'Mr a Mrs Jones' fydd yn gyfrifol amdano. Y rhain a'n harwain o'r niwl a'r anialwch. Heddiw fe ddarperir iddynt hwya mryw o raglenni pop a ballu, ond dim cynghanedd.....
Dychwelaf at fy nghwestiwn agoriadol, gydag ychwanegiad. Pam nad trwy gasetiau y dylem gyhoeddi barddoniaeth gynganeddol? Casetiau fideo a siart hyd yn oed, boed y farddoniaeth yn cael ei chanu neu ei hadrodd.
Synau, lleisiau a llun - gyda graffics cyfrifiadurol i gronni'r cyfan! Ac anrhydeddir y gynghanedd ...
Ymataliaf. Realaeth .... Mae Sion a Sian ar ddechrau ....


 

horizontal rule

 
 

Y Faner, Rhagfyr 5, 1986


(Adolygiad o bedwair cyfrol yng nghyfres y Beirdd Answyddogol, Gwasg y Lolfa)
Ers cyhoeddi'r gyfrol gyntaf yng nghyfres y Beirdd Answyddogol aeth llawer o arwyddion Saesneg o dan bontydd Cymru a chododd rhesi ar resi o ylsyrs yn stumogau'r chwyldroadwyr.
Er y diwrnod hwnnw pan wrthododd Robat Gruffudd radd gan Brifysgol Cymru bu'n driw i'w weledigaeth arloesol a llifodd toreth o lyfrau, posteri, cardiau a chylchgronau bywiog a lliwgar o Wasg y Lolfa. Diolch amdano.
....
Mae cyhoeddi'r cyfrolau hyn yn diarddel eu hawduron o gornel y Beirdd Answyddogol; yn wir gellir dadlau nad yw dau ohonynyt yn Answyddogol, gan iddynt gyhoeddi cyfrolau cyn hyn.
Dagrau Rhew gan Sion Aled (Rhif 5 yn y gyfres) a roddodd y pleser mwyaf i mi. Trwythodd Sion Aled (y Prifardd erbyn hyn) ei hun yn y gynghanedd cyn cyhoeddi ...
Nid yw'r pedwar bardd uchod yr un fath a Sion. Ofnaf mai prin iawn yw eu geirfa. Gwn fod gan Steve Eaves eirfa eang iawn at ei alw ac efallai mai ar allor symlder yr aberthwyd hi.
Nid oes yr un o'r pedwar yn defnyddio'r gynghanedd. Dyma'r ffasiwn. Y mae cynganeddwyr ifanc heddiw yn dipyn o drilobeit ffosiledig yng ngrisial plastig perfaith y cyfryngau. Tybed a gaf fod mor hy ag awgrymu i Robat Gruffudd mai'r cynganeddwyr ifanc ym 1986 yw'r gwir feirdd answyddogol? Do, fe newidiodd pethau.
 
 

horizontal rule

 

O'r Faner, 10.8.91

Trasiedi Tseina yw nad yw Deng Xiao Ping a'i ddilynwyr yn barod i dderbyn newid na thraddodi'r awenau o un genhedlaeth i'r llall. Trasiedi canu gwerin Cymru heddiw yw ei fod wedi'i biclo mewn finag a'i adael i fwydo mewn anghofrwydd.
"Fedrwch chi ddim aros yn llonydd" meddai rhywun rywdro, "oni bai eich bod yn gelain." Yn wahanol i Iwerddon (a bron pob gwlad lleiafrifol arall y gwn i amdani) mae Cymru wedi gwadu ei thras gerddorol gan droi at efelychu cerddoriaeth Americanaidd-Seisnig a cheisio rhoi ffurff Gymreig ar honno. Ceisio hefyd greu "scene roc" Gymreig heb ei seilio ar ddoe. Methwyd a phoblogeiddio jigiau, riliau, a chaneuon gwerin Cymru, er holl ymdrechion dechrau'r Wythdegau. Beth aeth o'i le? Canolbwyntiwyd ar ail-adrodd traddodiad yn hytrach nag adeiladu ar draddodiad, hynny yw, canu Hen Ferchetan (a'i llabuddio) yn hytrach na chreu caneuon newydd yn yr idiom Geltaidd / werinol. Heb gyfoesedd, symud, newid a'r elfen greadigol, y mae popeth yn statig. Yn farw. Hyn oedd wrth wraidd trasiedi Sgwar Tiananmen y llynedd.... O aros yn llonydd, heb gyfoesedd, heb arbrofi a heb fetamorffosis, waeth inni ei phiclo (y Gymraeg) yn yr Ugeinfed Ganrif.


 

horizontal rule

 

Barddas, Hydref 1991

(ateb cwestiwn 2) ... Ymgyrraedd at ganu fy nghan fy hun a wneuthum fel y dywedais uchod. Os oedd hynny'n golygu dymchwelwaliau ieithyddol ac ambell dabw, gorau oll.
Credaf, i ateb dy gwestiwn cyntaf, fod y gynghanedd yn hollol gyfoes gan y gellir cynganeddu pob gair newydd a dderbynnir gan yr iaith. Yr unig wal sydd bellach heb ei dymchwel yw'r arferiad ceidwadol o beidio a defnyddio tafodiaith, fel pe bai tafodiaith heb fod yn ddigon mawreddog i Awdl! Rwy'n siwr y daw'r dydd...
Peth digon hawdd yw defnyddio geiriau bob-dydd mewn englyn digri. Ond os yw'r bardd am fod yn onest a fo'i hun ac yn ddiragrith, yna dylai allu cofleidio'r iaith lafar a'r iaith lenyddol, boed hynny mewn cywydd, mewn awdl, mewn emyn neu mewn ga^n Reggae... Mae 'na ryw ddeuoliaeth ryfedd iawn yn perthyn i ni yn ein defnydd o iaith wahanol ar gyfer achlysuron gwahanol.
Mae'n bwysig fod bob iaith yn ddigon hyblyg i gwmpasu ac i gofleidio geirfa'r oes. Heb yr ystwythder hwn, waeth i ni ei phiclo mewn pot jam a'i gadael ar y silff-ben-tan. Ac felly'r gynghanedd hithau, heb ei hymestyn a'i datblygu ni fydd yn ddim mwy na nionyn-finag di-wraidd a difywyd.

 

horizontal rule



Barddas, Mehefin 1994

Os mai Diplodocws wedi'i ffosilieiddio yd Donald Evans, yna ET estron o'r blaned Viva-la-Doler ydi Iwan Llwyd. Y naill heb symud o'i unfan ers 135miliwn o flynyddoedd a'r llall yn adlewyrchiad o ryw ffordd arall, ddiarth o fyw. Dau begwn; ond nid dyma'r unig ddewis.
Fe drodd y gastropod yn bysgodyn nid drwy ddatblygiad estronol ond drwy esblygiad. Fel hyn yn unig y cadwn ein hunaniaeth fel cenedl. Ac mae metamorffeiddio'r gynghanedd yn rhan hanfodol o'r cadwraeth hwn. Tristwch S4C hithau fel y dywedais rai misoedd yn ol yn Golwg yw ei hanmallu i esblygu'n naturiol. Datblygu a wna gan adlewyrchu'r ffordd Americanaidd-Seisnigaidd o fyw. Tristwch crefydd Cymru heddiw yw iddi aros yn ei hunfan yn hytrach nag esblygu. Dau begwn a thynged y ddau yr un fath: peidio a bod.
Oddi fewn y daw pob esblygiad - er bod iddo ddylanwadau allanol - a thrwy arbrofi a'n traddodiadau Cymreig y daw. A thynged esblygiad yw parhad, parhad bywyd, parhad yr amrywiaeth. Viva la esblygiad!


 

horizontal rule

 

Barddas, Chwefror, 1997

Erthygl yn Barddas, Chwefror, 1997: Rhai Camsyniadau ar Drothwy Mileniwm Tri

Dwi'n cytuno efo trwch yr hyn a ddywed Iwan Llwyd yn Rhifyn Tachwedd o Barddas am y cyfryngau. Ond mae'r gair 'cyfryngau' yn golygu llawer iawn mwy na hyn. Perthyn i'r Ddelwedd Fawr mae 'cyfryngau' Iwan; y cyfryngau corfforaethol, traddodiadol fatha'r teledu, y radio a'r papurau newydd. Mae effaith dyddiol y cyfryngau hyn arnom yn affwysol o gryf ac wedi camliwio llawer ar ein syniadau.
Cyfrwng arall na soniwyd amdano, fodd bynag* yw archdraffordd wybodaeth y We a'i phriffyrdd cyfochrog megis Post-E, BBS (byrddau bwletin neu fforymau)a'r grwpiau newyddion 'DefnyddRwyd'. 'Da i ddim mor bell a galw Iwan yn Amish nac yn Lydiad, eto! Gogoniant y Rhyngrwyd yw mai ni'r gwylwyr, hefyd, yw'r golygyddion, y pobol camra, yr actorion a'r anarchwyr. Gall unrhyw un gyfranu er enghraifft i Grwp-Newyddion Cymraeg y Defnyddrwyd (a phob grwp arall), nid llyfwyr tinau materol a dinasyddion unffurf y Ddelwedd Fawr yn unig.
Mae'r nifer o bobol sydd ar y Rhwyd yn dyblu bob tua pedwar mis ac mae'r gost o fynd arni'n gostwng bron yn ddyddiol. Cyn bo hir bydd gan bawb yn y 'gwledydd datblygedig' Rwyd, a byddwn yn prynu nwyddau, yn llythyru, yn syrffio ac yn pleidleisio drwyddi, ynddi a throsti! Y ddemocratiaeth eithaf! Yr unigolyn yn AS, yn Brif Weinidog ac yn Llywodraeth ynddo'i hun! Mae hyn yn dymchwel y waliau heb swn rhyfeloedd, y waliau hynny sy'n gwahanu cenedl a chenedl ac yn y pen-draw yn dileu'r angen am gyngor Sir a Llywodraeth Ganolog. Ar y Rhwyd, mae pawb fwy neu lai ar yr un statws gymdeithasol. Tra bod dyn yn rhydd i feddwl drosto'i hun, yn rhydd i benderfynu yn ol ei ddoethineb ei hun, mae'r Rhwyd yn offeryn pwerus iawn i bob lleiafrif, ac i leiafrifoedd o fewn lleiafrifoedd! Ni fydd angen dinasoedd o swyddfeydd canolog (oherwydd sefydlu telefythynod ayb) ond yn hytrach gwelwn ailboblogi cefn gwlad, neu a ddylwn i ddweud - ecsodus o Seisnigrwydd i'r hyn sy'n weddill o'r Fro Gymraeg. Dyna i chi gamsyniad arall, ynte? Fod y Gymraeg yn ffynu! Chreda i fawr! Efallai fod Welsh y teledu a'r radio'n ffynu, ond nid felly'r Gymraeg naturiol. Does na ddim lle iddi esblygu ar y teledu, datblygu y mae a hyny'n gwbwl anaturiol. Mae'r cyfryngau 'traddodiadol' wedi ein cyflyru i gredu fod popeth yn dda hyd yn oed yng Nghadarnleoedd y Gymraeg! Hanfod 'esblygiad' ydyw'r unigolyn: genynau yr unigolyn yn newid o un genhedlaeth i'r llall. Mae'r Rhwyd yn llawer mwy unigol na chyfryngau torfol, traddodiadol Iwan.
Tristwch y cyflyru hwn sydd wrth wraidd camsyniad arall: y camsyniad bod bardd poblogaidd o reidrwydd yn fardd gwych, bod actor poblogaidd opera sebon yn actor gwych neu fod chwareuwr pel-droed sy'n chwarae i'r galeri yn bel-droediwr gwych. Nid o reidrwydd. Dyma ydi tristwch y teledu: ei allu i fanipiwleiddio meddyliau pobol fel ac i greu ei ddiwylliant ei hun yn hytrach nag adlewyrchu diwylliant byw, real, gonest. Tydy awduro digidol, fodd bynnag, ddim yn atebol i neb, nac yn ceisio bod yn boblogaidd a gall unrhyw berson fynd ati, nid y detholedig rai yn unig.
Rhyfedd iawn, yn ddiweddar, oedd clywed rhywun yn datgan nad y llyfr fydd cyfrwng y dyfodol ond y fideo! Mae'r diwydiant meddalwedd, eleni, yn gwario dwywaith cymaint o arian ar ddatblygu eu cynyrch ag y mae'r byd seliwloid yn ei wario ar ffilm! A gogoniant meddalwedd, wrth gwrs, yw ei elfen rhyngweithiol. Nid cyfrwng unochrog-unffordd mohono. Hyd yma, tydy Java, Microsoft a thyrau eraill y Brawd Mawr ddim wedi monopoleiddio'r Rhwyd. Mae Osmosis yn bodoli, mae ethos yr Oes Newydd yno'n sicir ac mae digon o le i lais yr unigolyn, i gariad ac i barch. Fedrwch chi ddweud yr un peth am y cyfryngau traddodiadol?
Dwn im am faint y pery'r rhyddid hwn ar y Rhwyd cyn i Murdoch, y CIA a'r IMF fanipiwleiddio'r cyfan gan stwffio'r rebel i siwt o goncrit; rhywbeth tros dro ydy pob chwyldro ac fe gyll ei newydd-deb a'i ryddid yn sydyn iawn. Neu'n hytrach fe'i prynir- ac fe'n cyflyrir ninau yn y broses. Ond ar hyn o bryd, beth bynag, dawnsiwn yn acrobatig, yn rhydd o'r diwedd ar We bregus y bore olaf.
Mae Iwan yn mynd rhagddo i son am y 'streic'. Ers pum mlynedd, bellach, dwi wedi gwrthod pob cyfweliad ar Radio Cymru ac S4C. Fy ateb i bob gwahoddiad yw fod y ddwy sianel yn anigonol, yn anghyflawn, yn faterol ac yn Anghymreig. Yr unig eithriad i hyn fu Talwrn y Beirdd, un o'r ychydig berlau prin. Mi wrthoda ina hon os oes rhaid, ond onid gwell fyddai ei thrysori a'i chofleidio gan ymwrthod a gweddill y giwed, ymwrthod a phob rhaglen arall nes y ceir dwy sianel Gymraeg gyflawn. Mae angen i ni gefnogi pob cyfrwng, gan gynwys Radio Cymru ac S4C, wrth gwrs, ond mae, angen, hefyd, i rai ohonom sefyll yn ol oddi wrthynt, yn rhydd o'u gafael cyflyrol, yn anibynol-wrthrychol.
Ond eto, mae hi mor anodd gwrthod doler neu ddau yn tydi?
I gloi, mae'n rhaid i mi son am ddau gamsyniad erchyll a goleddir gan rai ac sy'n deillio o lwyfan-roc S4C a Radio Cymru; yn gyntaf, y rhagdyb neu'r camdyb fod yn rhaid defnyddio geiriau Saesneg i fod yn ddigri. Gair Cymraeg ydy pot-jam, ond gair Saesneg ydy 'calculator' (fel mae pob plentyn ysgol o Gymro yn ei wybod!) Gair Cymraeg ydy 'acrobat' ond nid felly 'telefishyn'! Dylanwad rhagleni fel 'Heno' sy'n creu'r ffasiwn yma? Ac yn ail, y ffasiwn ddiweddaraf o gynganeddu'n Saesneg, wel call a dawo! Y camsyniad fod yn rhaid plesio cenedl arall i gael eich derbyn gan eich pobol eich hun.
Ydy, mae 1984 wedi pasio a 'da ninau eisioes wedi ein moldio yn ddinasyddion unffurf y Ddelwedd Fawr.
 



horizontal rule

 

 

Defnyddio'r gwaith:     Gallwch ddefnyddio'r cerddi i'w hadrodd neu eu canu fel cystadleuaeth eisteddfod, ar radio neu deledu heb ganiatad yr awdur.
Dylid, nodi ffynhonell y cerddi, ond nid y caneuon, fel www.barddoniaeth.com.
Hawlfraint y cerddi a'r safle: (oni nodir yn wahanol): Cyfrifiaduron Sycharth, Mehefin, 1996 - 2008. Cedwir pob hawl.
Caniateir islwytho'r testun i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.