Y gyfrol Gymraeg gyntaf i'w gosod ar y we fyd-eang - Rhagfyr 1996.

Robin Llwyd ab Owain: y bardd cyffrous

Enw gwreiddiol y gyfrol oedd 'Rebel ar y We'.
Newidiwyd 22 Mai, 2006.

Caneuon   Cerddi   Adref

 

Bwrgwyn
Mae'r wefan hon bron yn:
12 oed !

Cyfrol o gerddi

www.barddoniaeth.com
gan y rebel
robin llwyd ab owain

'Tra bo dau bydd trwbadwr...'

Cartref Moel Famau

Beaujolais Gwin Cartref Guinness St Emilion Bwrgwyn Potel Wag

2000 - 2006
Y presenol. Pellau oddi wrth Gymru Americanaidd, faterol, 
a chlosio at ddyfnder seicoleg a diwylliant (gwrthamericanaidd) unigryw Ffrainc ac Iran.
Owain Lawgoch. Gwin gorau'r byd.

 

Ar Drothwy Mileniwm Tri  (Cyhoeddwyd yn Y Bedol, Ionawr 2000)
Can yr Hen Filwr (Gwyl Glyn Dwr, Rhuthun, Medi 2000; Y Bedol. Hefyd yn Golwg, Awst 9, 2001)
Olion Traed  (Cerddi a sgwenwyd rhwng 1995 a 2000)
Ym Mharti Pen-Blwydd Erin   (Barddas, Mehefin/Awst 2000; rhifyn 258)
'O Enau Plant Bychain...'  (Barddas, Mehefin/Awst 2000; rhifyn 258)
I'r Bardd 'Poblogaidd'   (ar y we Hydref, 2002)
Y Bedol yn 25 Oed;   (Y Bedol, Ionawr, 2003)
Petheuach:   (ar y we, Mai, 2003; Barddas Awst 2003)
Rhagfyr Plentyn   (ar y we, Mehefin, 2003; Barddas Awst 2003)
Zonia Bowen   (ar y we, Awst, 2003; Barddas Rhagfyr 2003)
Mwy, Mwy Mwy!   (Y Bedol, Rhagfyr 2003 'Nadolig Munud Ola')
D. S. Wynne   (Y Bedol, Ionawr 2004)

Hysbysebu Fflat  (Vale Advertiser, 3/12/2004)
Y Ddau Rys (Ar y We Ionawr 2005, comisiwn gan Ysgol Feithrin Rhuthun)
Moel Famau (Ar y We Chwefror 2005; Barddas Rhagfyr 2005)
Y Lloer (Ar y We Mawrth 2005; Barddas Rhagfyr 2005)
Gwynfor Evans (Ar y We Mai 2005; Barddas Rhagfyr 2005)

Rhedeg ar Wydyr (Ar y We Medi, 2005; Barddas Ionawr 2006)
Gwenno (Ar y We Medi, 2006)
Derwen yn Cydio'n ei Dail (Ar y We Chwefror 2006)

 

Ar Drothwy Mileniwm Tri

Ein heddiw 'n ein heneiddio'n - anweddus,
Blynyddoedd yn treiglo:
Un awr, un gell yn troi'n go'
A'r eiliad yn ei dreulio.
 

horizontal rule

 

Cân yr Hen Filwr
(wrth gofio ymosodiad Glyn Dwr ar Ruthun, Medi 18, 1400)

 
Yn y gwddf mae lleuad gwyn,
Yn ei olau: hen elyn.
Mae ofn yn ffrind, mae ofn ffrae
Yn ddychryn rhag ei ddechrau,
Mae ofn yn crafu'i lofnod
 drain y bedd drwy ein bod.
Dwn i'm pam, ond dwi'n ama'
Mai ofn yw 'ngwallt gwyn, mae iâ
Ionawr yn brigo 'ngwyneb
Un fin nos, a fina'n neb.
Ofni'r cariad fflamadwy.
Ofni fi fy hun yn fwy...
Di-iaith fu'r cyfan, di-dân!
Ond mae meirch yng Nghoed Marchan.
Yn fy nghledd: diwedd pob dau,
Yn fy nghleddyf: angladdau!
Yn llaw Duw mae lleuad wer
Medi yn fflam o hyder!
Glyn Dwr y galon darian
Ar ei daith - a'r byd ar dân!
Yn ei law mae'r genedl hon!
Rhesi asur o Saeson
O'i flaen yn syrthio fel haidd
A'r bore mor farbaraidd.

Ogla mwg a wylo mam
Yn erlid pawb ar garlam,
Swn gwreichioni, swn crio
A'r cynfyd i gyd o'i go'
Yn un rhuthr ar Ruthun.
Yn y gwddf mae lleuad gwyn.

*   *   *

Ynom roedd Cymru, enyd,
Yn dan gwyllt, yn wên i gyd,
Yn senedd, gweddi a gwin,
Yn draeth o flodau'r eithin,
A mor o haul Cymru Rydd
Yn iau na lleuad newydd...

Un gwawn o ofn sydd gen i
Y gallwn rywdro golli
Hyn o haf; daw gaeafau...
Yn y cof mae drws yn cau.
Yna dim ond niwlen dew,
Estron, lladron a llwydrew...

Un winc o haul sy'n y cof -
Un funud mor fyw ynof!
A Glyn Dwr y galon deg
Yn rhyddid ym mhob brawddeg
Siaradwn. Hwn oeddwn i.
Hwn a'i gannwyll yw'n geni.

Gwyliwch! Fe dreulia'r golofn.
Bum inau'n iau'n byw mewn ofn.
Heno, ofni fy hunan:
Y dim mwy, y tywod man...

Hyn yn gyfan dwi'n gofio...
A fflamau cudd ffilm y co'
Yn w
ên... 

              ... ac roeddwn yno...

 

 

.. 'Golwg', Awst 9, 2001.

 

 

horizontal rule

 
 

Geraint (brawd) ar y chwith, Owain Owain (tad) yn y canol a'r bardd ar y dde. Bangor tua 1962.

OLION TRAED

 
"Hyd draethell hanes
myrdd
yw'r rhai fu'n troedio.
A rhwng eu llanw a'u trai
gwelid olion eu traed
yn y tywod llaith
Ond - bob tro -
deuai llanw arall 
gan chwalu'r olion traed
yn ddim... "
 

(Rhan o’r gerdd olaf a sgrifennodd fy nhad
ychydig cyn ei farwolaeth.)

 
1. Traeth Lafan
 
Nid am i ni dy gladdu yn nhywod amser
Ddwy flynedd cyn dy farw di y criaf,
Nid am i ni fynd ati yn llawn hyder
I hel y mwyar duon cyn y gaeaf.
Nid am im weld heb weld dy olau’n pallu
Fel igian cannwyll wer cyn treulio’i chwyr,
Nac am im glywed ynof raw yn crafu,
A thithau’n fyw... yn machlud cyn yr hwyr.
Nid am im weld y craciau yn y plisgyn
Cyn iddynt fod, na’r trai yn llanw’r lli,
Nac am i mi alaru cyn y terfyn
Y gwaeda Awst fin nos o’m llygaid i.
Ond am im weld y ddau, fu’n blant erioed,
Yn dilyn yn y tywod ôl dy droed.
 

Llandynnan, Llantysilio, Llangollen, 1998. Erin: 4 oed, Gwern, 7 oed. Plant y bardd.

(Nodyn 1: ceir portread a rhestri o waith llenyddol a gwleidyddol Owain Owain ar y We Fyd-eang: www.owainowain.net)

(Nodyn 2: mae'r soned uchod yn cyfeirio at gerdd ddiwethaf Owain Owain. Cliciwch yma i weld y nodiadau.)
 
 
 
2. Bywyd
Lluniais frawddeg o gregyn - erydu
Ol fy nhraed yn dirlun
Ac arwyddo dano, "Dyn!"
O'm hol roedd tywod melyn...
 
 
3. Ar y Ffordd i Sbytu Gwynedd
Ar drothwy drws y draethell bler ei dywod
Oedaf i wylio’r plant yn codi caer
Ac oddi mewn i’r cylch rhoed eu plentyndod,
Yr iaith a chof-freuddwydion brawd a chwaer.
Rhag llid y llanw arall codais inau
O fewn y galon fach ystafell gudd,
Ac yn y nyth o fwsog rhois drysorau
Fy ngwanwyn gwyrddlas i, a’th hafau rhydd:
Dy lun, y fideo, lleisiau’r lladron amser!
Tad-cu, Llyn Cob, Plas Llwyd... a lapio’u blas
 phapur sidan cariad, rhuban hyder
A’u selio ganwaith rhag y tonnau cras.
Beth bynag ddaw, ni all cleddyfau’r lli
Gyraedd y pethau gorau gerais i.

(Chwith: Robin; Canol: Eira Owain (mam); Dde: Geraint Owain. Tua 1962)

 
 

4. Sobri

Mae haul mewn cwrw melyn - am eiliad
A chymylau wedyn:
Gwagio lager tan glogyn
Fy nos. Be ‘dwi’n da fan hyn?
Nodyn 3

 

5. Mapio’r Genynau

Pan ddaw gwyddonwyr fory yn eu tro
I fapio fy ngenynau, fel bydd raid,
A llunio llinell hanes o’r jig-so:
"Ei wên run lliw â’i fam, ’run gwallt a’i daid!"
Fe welant, o fanylu’n fwy na hyn,
Fy nhad, y cyfan a freuddwydiaist ti:
Y fflamau cudd yn ffilm y cof ynghýn
A’th fywyd yn daith rithwir ynof i.
A gwelant dy gyndeidiau’n llinell faith,
Pob gair sibrydwyd a phob meddwl blin
A’u beddau’n gerig milltir hyd y daith
O fynwent werdd Denïo i *Statîn.
O mlaen: dwy gareg lefn ar draethell lân
A’r llanw'n dal i'w treulio’n dywod mân.
 
Nodyn 4
* Llongddrylliwyd hen-hen-hen daid i mi - a oedd yn gapten llong - ger Statîn, sydd bellach yn rhan o Wlad Pwyl.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, aeth ei fab â thalp o wenithfaen o Gareg yr Imbill, Pwllheli i’w roi ar fedd ei dad.
 
6. Colli Ffydd
I ble yr af heb leuad - i'm harwain?
Mae mur dros fy llygad.
Dangos drwy fy nos, fy Nhad,
Fideo o' r atgyfodiad.
Nodyn 5
 
7. Cydwybod

(Cyhoeddwyd hon, hefyd, yn y gyfrol 'Cerddi'r Troad' (GOMER, 2000) golygydd - Dafydd Rowlands.

"Gwell eu dileu, rhag ofn!" sibrydaist ti
A'th wên yn llenwi'th wyneb fel y lloer,
"O leiaf eu dileu o'n llygaid ni!"
A dyna wneuthum gyda'r perlau poer.
O fyd y cyfrifiadur carthwyd hwy -
O westy'r cof - pob rheg a delwedd flin
Ac wedi difa'r cyfan nid oedd mwy
Ond dalen o dawelwch ar y sgrin.
Tair blynedd wedi hyn beth welwn ond
Rhyw ffeil o fewn i ffeil o'r enw 'Temp',
Rhewodd fy niarwybod glic yn stond
O weld y ffeiliau a'u haroglau rhemp.
A'r Duw a welodd Auschwitz wrth d'ochor di
Yn chwydu'i waed uwch fy mhechodau i.
Nodyn 6
 
 
8. Y Clogwyn
O ’mlaen fe gododd clogwyn y clogwyni
Yn graig o ddychryn. Ond roedd rhaid nesáu
Ato i ganfod patrwm yn y meini:
Olion ffosiliau, wrth i’r lloer wanhau.
Fel un yn darllen llun heb ddeall hwnw
Gan olrhain ol y brws, pob Ilinell wawn;
Ond rhan o'r cyfan cudd yn unig welwn
Heb gamu nol o'r llun i'w weld yn iawn.
Wylanod yn y glaw, ewch ar adenydd
Amser ac ewch uwchben y creigiau mud!
Ymhell! Fel gweddi’n codi drwy’r cawodydd
A thrwy berspectif amser, cewch y byd!
A chydag amser fe ddown at ein coed,
Ni welwn fyth mo’r mynydd wrth ei droed.
 
 
9. Byrder Bywyd
l'r ciosg, pres yn llosgi, - a gwariwn
Bob gair heb ei gyfri',
'Mond hyn-a-hyn roed ini,
A hyn-a-hyn ydan ni.
 
 
10. Yr Hyn Oedd Weddill
 
Ac wedi codi cerdd o gastell Lego
Fe ddringom yr Allt Fawr i rythm cloch -
Yr hydref yn ein galw i hel mwyar:
Yn biws ein bysedd a’n gwefusau’n goch.
"Nid maint yr aeron, ond y blas tragwyddol!
Nid hyd munudau’r clawdd - eu hansawdd hwy!
Anwylwch bob un eiliad fel ’tae’r olaf!"
Ac at y plant y troist dy wyneb llwyd.
A’th eiriau prin yn chwarae gwyddbwyll ynof
Fe gerddom ar i waered, fraich ym mraich,
Gan flaenoriaethu fory nol ei lendid,
Gan ddethol heb i’r dethol fynd yn faich:
A chodaist bont o Lego bob yn benill,
Gan sipian o win Awst yr hyn oedd weddill.

Nodyn 7
 
11. Yr Ynys
Er rhannu dagrau anwar - a’u rhanu
Uwch bont bren â’r ddaear,
Ynys wyf a theyrnas wâr
Unigolyn yw galar.
 
 
12. Y Dydd Olaf
Tra gwenai seren wen uwch llanw’r geni
Ei than trydanol, tra bu Gwern ein fflam
Yno’n ei glogyn nos yn cydaddoli,
A’i deirblwydd doeth heb unwaith ofyn "Pam?"
Tra bloeddiai glan-angylion o’u calonau,
Tra galwai y bugeiliaid ðyn o’r llaid,
Tra mwmiai Mair i’r baban yn ei breichiau,
Sibrydodd llygaid Gwern "Ond ble mae Taid?"
Tra gwenai’r trimins aur uwch gwyrth y geni
Roedd trai ac ogla trai ’n yr aeron tlws,
A thra roedd llanw’r ddrama yn ein llenwi,
Fe glywsom drwy’r carolau swn y drws...
A gronyn o’r gronynnau’n mynd i’w grud,
I’r mil gronynnau man. A dyna’i gyd.
Nodyn 8
 
 
13. Wedi’r Nadolig
Adref aeth pob oen, hefyd, - a ’ngadael
Yng ngheudwll yr ynfyd
Dan y baw o din bywyd.
Beudy gwag yw’r byd i gyd.
 
 
14. Pe Na Bai Haul yr Hwyr
Pe na bai haul yr hwyr yn plygu’i ben
A mynd i’w fedd petryal heibio’r trai,
Ni fyddai chwaith i’w gweld ’run lleuad wen
Yn syrffio’r tonnau sêr. A phe na bai
Plisgyn y gneuen goncyr yn ei dro’n
Hollti yng nghrud y gwynt a gwely’r glaw,
Ni allai’r bywyn gwyn gusanu’r gro
A bwrw gwraidd yn ein hyfory draw,
Ni chwarddai’r ddrudwen ar y domen dail,
Ni sipiai’r gwenyn o’r costreli medd,
Ni ddawnsiai’r blagur yn nhafarnau’r dail
Pe na bai haul yr hwyr yn mynd i’w fedd.
Ond rhaid pob rhaid yr haul yw mynd i lawr
A’r rheidrwydd hwn sy’n llenwi’r gwacter mawr.
 
 
15. Y Fynwent
Iddi hi yr euthum yn ddyn - nid tad
Yw tad ar lan deigryn,
O'r fynwent fe ddaeth plentyn -
Y lleiaf oll - fi fy hun.
Nodyn 9
 
 
16. Yn yr Amlosgfa
Uwch rhwyg ei arch, ei regi - wna'n c'lonau
Celynog, cyd-drengi.
Uwch caead arch, cyderchi,
Uwch pren ei arch poerwn ni.
 
 
17. Pasio’n Gilydd
Cyfarchiad, pasio’n gilydd a mynd heibio,
(Dau olau ar y nos a dim byd mwy),
Dy wên yn dal y drws i minnau basio,
I mewn ac allan, llusgo dros a thrwy...
Ein dod a’n mynd a dod yn drai a llanw:
Fel gwisgo a dadwisgo siaced blaen,
Ei golchi, ei hailgylchu, newid enw
A’i gwisgo a’i dadwisgo fel o’r blaen!
Mileniwm deugain mlynedd o dy nabod
Yn ddim ond dau ol troed ar draethell hir
Am eiliad yn cydgerdded ar y tywod
Benthyg, ac yna dim ond mor a thir.
Y gusan-gyfarch gynnes, yn ei thro,
Mor orlawn o ffarwel! Hwyl fawr! Da-bo!
 
 
18. Yr Anrheg
Mam ini yw amynedd! - ac yn dad
I’r cnawd hwn: byrhoedledd.
I'n daear, rhodd yw'n diwedd,
Rhodd enbyd bywyd yw bedd.
Nodyn 10
 
 
19. Y Testament Olaf

(Mewn Cynhebrwng)

Gwenwn a chalon gynes a gwenwn ganwaith,
A gwenwn ganwyll olau uwch dy angau di;
Gwenwn am iti gynau ynom eto
Ganwyll, ac eto gwenwn er na welwn hi.
Gwenwn oherwydd gonest ydyw angau
A gonest ei grafangau ar dy wenau di,
Ond dianc rhagddo wnaeth dy olau tawel
Gan adael cot o gwyr ... a gwenwn ni!
Gwenwn oherwydd gwyddom mai tragwyddol
Yw dy barhad ysbrydol yn ein can a'n sbri:
Rhanwyd dy ludw rhyngom, y lleidr angau,
Yma yn ein hatomau a'n genynau ni.
Wyt yma ym mhob tymor o'n hyfory,
Dy farw difarw di yw cylch y dwr,
Wyt yma ym mhob diferyn o'n difyrwch,
Yn ein tywyllwch taer wyt olau twr.
Gwenwn a chodwn garnifal o'n galar
Ac ar dy fedd petryal gadawn ol ein traed;
Yn gesig dawnsiwn yn ein gwisg o dinsel
A chlocsiwn ar dy elor nes gogleisio'r gwaed.
Gwenaist a hongiaist got ar fachyn angau
Gan gau'r hen ddrws 'na'n glep yn ein hwynebau ni,
Ac yno - yn swn disgo dy ddadwisgo -
Aethost, ond eto gwn nad aethost ti.
Aethost er mwyn y rhai a ddaw i'r llwyni,
Aethost i awr llawenydd wawrio wedi'r hwyr,
Aethost i ni ymblethu'n barau truan,
Aethost i ninnau sipian o'r cuddfanau cwyr.
Gwenwn â chalon gynnes a gwenwn ganwaith,
A gwenwn ein serchiadau yn dy olau di;
Gwenwn am iti gerdded ynom eto:
Gwenwn ar dywod aur a dathlwn di.
Nodyn 11
 
 
20. Dathliad
Mae'r lle ma'n wag fel cragen,
A'r galon oer? Gwylan wen!
Gwylan yn bwrw'i galar
A herio gwyll yr hwyr gwar.
O 'mlaen, nid traeth melynwyn
Ond cybol dy ol dy hun:
Olion hen gur, olion gwg,
Olion nad ant o'r golwg,
Pob cerdd anadlaist, pob cân,
Pob co' oesol, pob cusan,
A phob brawddeg o gregyn
Yn her i amser ei hun.
Eiddo dau fach oedd dy fyd,
Byd ifanc pob dau hefyd.
Tra bo angau bydd heuwr,
Tra bo dau bydd trwbadwr,
A gwên o gân yn y gwyll:
Dawns dau rhwng dwy nos dywyll.
Dawnsia’r haul: dawnsia’r wylan
Ei mig uwch y tywod mân.
Drws gwag y bore' n agor,
Gwawria'r meirch, gweryra'r mor,
A'r wylan yn gân i gyd
Yn ei baw'n dathlu bywyd.
 

horizontal rule

 
Ym Mharti Pen-Blwydd Erin

(Gweler hefyd y gan 'Pedair Oed' ar CD 'Pedair Oed' Rhys Meirion (Recordiau Sain). Llinell ola'r englyn hwn oedd sbardyn y gan.

Mae'r wên 'di bod yma 'rioed - drwy ein ddoe,
Gan droi'n ddawns ysgafndroed.
O'n mewn y mae ei henoed,
Be 'di'r iaith? Merch bedair oed.
 


Gweler hefyd y gerdd a sgwenwyd i Rhys yn 1996.

 

horizontal rule

 

'O Enau Plant Bychain...'

(Ar ol ymweld a Le Cinema Circulaire Arromanche 360 yn Normandi, Awst 1999.)

Dadrith! 'Dwisio mynd adra', - 'dwisio môr,
'Dwisio MYND o'r lle 'ma!'
Yn swn darfod ces ina'
Y wefr o fyw - au revoir!

 

 

horizontal rule

 

I'r  Bardd 'Poblogaidd'

(I'r bardd hwnw sy'n sgwenu i gynulleidfa)

Dwed dy ddweud a'i ddweud yn dda - gyda gwaedd,
Gydag awch drwy'r geira!
Gwaeth na'r halogi eitha
Yw rhoi dwr ar gwrw da.

 

 

horizontal rule

 

Y Bedol yn 25ain Oed

(Papur bro Rhuthun a'r Cylch.)

  Ewch, gogleisiwch ei glasoed! – Ynddi hi
Iaith ddur, iaith ein maboed:
Mae'n hen, heb nabod henoed,
Hi yw’r iaith orau erioed!

Iaith y duwiau, iaith dawel, - iaith sobri,
Iaith sibrwd, iaith dymchwel.
 Iaith rafin, iaith gwrthryfel,
Iaith moes a mwy: iaith mis mẽl.

 Ddoe’n wreigan, heddiw’n rhwygo – ei phais wen
Anffasiynol, stripio
Yn chwil, chwil-daflyd ei cho
Atom. Mae fory eto...

Awn yn iau! Mae tân Owain! – ynom ni,
Min nos, ac mae’n arwain
Y Gymru druan o’r drain:
Rhegwch! Mae’n bump-ar-hugain!

 

horizontal rule

 

Petheuach

(Sori TH: nid hyd yn oed careg!)

Ni ‘di’r tywod: gwag-fodau –  yn gwagio
Drwy’r gogor!  A’r oesau:
Rhy fawr ynt i beth mor frau!
Rhy lydan yw’r eiliadau.

 

 

horizontal rule

 

Rhagfyr Plentyn

Breuddwydion gwast o blastig - yn fysedd
anfoesol, yn fiwsig
ar y ffôn yn llawn straffig
yn deialu'r Nadolig.

 

horizontal rule

 

Zonia Bowen
(Sefydlydd Merched y Wawr; arloeswraig)

Nos. Hir nos. Lle bu brain hen - yn crawcian...
Craciodd y ffurfafen:
Gwawriodd yn aur ac oren,
Yn iaith i gyd, 'fatha gwên.

 

horizontal rule

 

Mwy, Mwy, Mwy!
(Diolch i Eirwen Jones, y Bedol, Rhuthun am ei chomisiynu)

(Y teitl cyntaf ar y cywydd hwn oedd 'Nadolig Munud Ola'. defnyddiwyd y gerdd gan Eisteddfod yr Urdd Dyffryn Clwyd, 2006
o dan y teitl 'Mynd. Mynd. Mynd, fel fflam o haf'.)

 

Rhowch fet! Mi fyddaf eto’n
Hwyr glas, a’r siopau dan glo!
Yn hwyr, rhy hwyr! Mae’r eira
Ar bafin yn blincin bla!

Pwy wyf ond rhyw hen ŵr pîg
Heno’n diawlio’r Nadolig
Lawr lon yn wiglo’n waglaw
A’r eira’n wlyb yn troi’n law.
Mynd-mynd-mynd, fel fflam o ha’:
Nadolig munud ola’....

Draw yn slwtj y dre’n sletjo:
Rhyw Steven, Jason a Jo
Yn y dorf sy’n mynd a dod
Yn poeri rhegfeydd parod
Gan lithro heibio i ddau
Yn ffeirio eu cyffuriau.
Newidiol, estron ydyw
A thref go ddieithr yw.

Fewn i siop gwerthu popeth
Di-fai, teganau di-feth;
Pethau ein dyddiau diddim
Un siop llawn dop o bob dim!
Dim iaith mam, dim cyfamod,
Na rhinwedd ‘mynedd… Am od! 

Roedd y silffoedd yn bloeddio
Eu haur tawdd o’r llawr i’r to:
Batris, Barbies a Bourbon,
A stwff gwneud chi’n ugain stôn!
Tanciau, gynau yn ganoedd,
Un Iraq o gownter oedd!
A fideo o Rambo a’i griw,
Arwr gwlad - Ianc mor glodwiw!
Dyma un i’w ddymuno!
Trist, trist! Ond mi wneith y tro...

 sothach lond fy sachau
Plastig, rhyw ‘Ddolig i ddau
Yw hwn. Gweld trempyn unig
Yn y mwd, dwi’n chwarae mig
Â’i lygad, mynd a’i adel
Yr uffar ryff a’i ffarwel -
‘By Joseph, be a Jesus!’
Y ffwl! Af o’ma heb ffys
Yn gynt drwy’r gwynt, âf o’r gad:
Samwrai o Samariad! 

Swn y cor. Nid Angoraf *
Yn y môr ond heibio’r âf.
Swn crol a swn carola,
Swn cwn, a swn drws yn cau...
Swn dim, swn 'Amen!"', swn da!
Swn swn a swn Hosana
Rhyw hen wag yn ei morio hi
A ‘Dolig wedi dal-hi:
“Jingl Bells In Excelsis!”
Yn fyr ei hyd. Af ar frys... 

Hogan - stŵj - dros ugain stôn
Yn rhegi am anrhegion
O aur y byd i’w rhai bach
(Bytheiaid am betheuach!)
A’i hugain stôn o floneg
Praff fel pe’n trymhau pob rheg.
Ugain stôn dan bibonwy!
‘O! Mam, Mam, Mam, dwisio MWY!’
Ebe un o’r chwiaid bach.
A mwy yw popeth, mwyach...
Mwy! Mwy! Mwy a mwy o hyd -
Rho'r bai ar wacter bywyd.
 

Hysbysebion aflonydd
Yn dweud fod hi’n ganol dydd,
Yn sgrechian am  d’arian di
Yn aniddig, yn weiddi,
Yn hawlio gwylod waled!
Hyn, a llai yw’n hyd a’n lled.
A slei, disynwyr a slic
Yw synwyr Panasonic....

Aros i gyfri f’arian
Nad oes. Af adre at dân
Fy anwyliaid, fy nheulu
I fyw'r ‘Dolig gwyn a fu!

Efo ‘ngwên lapiaf fy nghur…
Â’r byd yn eira budur.

(* Angoraf = Tafarn Yr Angor, Rhuthun.)

 

horizontal rule

 

D. S. Wynne 

(Cyflwynir i'w bump plentyn.)

Bu farw pob yfory.
Un bedd yw
Pob ddoe,
a thrwy hyny
yn ei fedd mae’r glendid ‘ fu.
Emrys,
bu farw Cymru.

Un awr ddoe’n awr mor ddiwyd,
un awr fer,
rhy fyr
Ond llawn bywyd!
Eifion, bu farw hefyd
nid un gŵr,
ond ni i gyd. 

Gwag mwy yw ‘gwlad ein tadau’
o’i golli,
gwag allor yw’r genau.
Gwag, Eirian, ydyw geiriau:
llwfr a gwag
fel llyfr ar gau.

Ond afiaith hen obeithiwr sy’n aros
yn nhir
y  breuddwydiwr!
Yn ôl dy draed,
rhen soldiwr,
Gwelwn dân
o fflam Glyn Dwr.

Carodd hiwmor, dweud stori, brygywthan- bregethu,
ein cosi a’i wên,
rhoi’i wên ini.
Carodd iaith,
ceryddodd hi. 

Ei wên sy’n llenwi’r enyd!
Lliw ei wên
sy’n llenwi’r cyfanfyd!
Meinir, mae ym mhob munud!
Menna fwyn:
mae’n fyw o hyd!

horizontal rule

 

Hysbysebu Fflat ar Osod

Fflat Newydd!  Lle da'i guddio! - Un dwy lofft
Del iawn, wedi'i beintio!
Rhoddwyd carpedi drwyddo!
Dy nef yw - a dyna fo!

 

 

 

horizontal rule

 

Y Ddau Rys

Dau arwr, dau aderyn, - dwy wiwer
Byd-eang, dau drempyn!
Dau ddoeth, Dau Lyn-dwr, dau ddyn
Dewra'r iaith o dre Rhuthun.

 

Y ddau yn Rhuthun, 2004. Hawlfraint: Beti Wyn.
Gweler hefyd y gerdd Rhys Meirion

 

horizontal rule

 

Y Wawr Uwch Moel Famau
(Comisiwn gan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Rhuthun)

 

Rhen haul â'i deyrnwialen - a roddodd
Aur iddi: trodd hoeden
O Foel yn ferch benfelen
Ac arni hi goron wen.

 

 

horizontal rule

 

Y Lloer

(i Robert, 8 oed o Gynwyd, Corwen; bachgen hoffus, deallus, dall.)

Gair rhyfedd! 'Mond disgrifiad - ar ymyl
Cryman. Dim ond crafiad
Ewin bys. 'Mond taith mewn bad
Nad yw 'n ddim ond... dyhead.

 

horizontal rule

 

Gwynfor

'Mynedd fu'n treiglo'r meini, - afon oedd
Yn dyfnhau, rhoed iddi
Raeadrau o wrhydri.
Yna'r llaw'n codi o'r lli...

 

 

horizontal rule

 

Rhedeg ar Wydyr

 

Ar do fflat hen ei natur - y rhedwn
Am ryw hyd, creu llwybyr
Heb weld gyda'm golwg byr
Y ty'i gyd, y to gwydyr...

 

 

 

 

horizontal rule

 

Gwenno

(A fu farw o gansar, Medi 2005, yn 12eg oed.
'Oni welwch chi'r haul yn hwylio o'r awyr...?
)

Ac ynof mae haul gwynach - na golau,
Haul gwylaidd, melynach,
Ynof, fel hen gyfrinach,
Ac ynof i... Gwenno Fach.

 

horizontal rule

 

Derwen yn Cydio'n ei Dail
(A hithau'n ganol Rhagfyr!)

Anwesai bob hanesyn - o'i chof hir
â chyfaredd plentyn:
hen wraig â'i bysedd brigwyn
heddiw'n dal ei ddoe yn dynn.

 

 

horizontal rule

 

 

 

Ar Fawrth 13, 2006, yn hytrach na mynd i'r treialon criced (tim Cymru) yn Nhywyn, Sir Conwy,
aethpwyd a Gwern, i Ysbyty Alder Hay, lle datgelwyd fod ganddo Lukemia.

 

22 Mai, 2006. Newidiwyd teitl y gyfrol hon o 'Rebel ar y We' gerddi i 'Redeg ar Wydyr'.

 

 

horizontal rule

 

 

Defnyddio'r gwaith:     Gallwch ddefnyddio'r cerddi i'w hadrodd neu eu canu fel cystadleuaeth eisteddfod, ar radio neu deledu heb ganiatad yr awdur.
Dylid, nodi ffynhonell y cerddi, ond nid y caneuon, fel www.barddoniaeth.com.
Hawlfraint y cerddi a'r safle: (oni nodir yn wahanol): Cyfrifiaduron Sycharth, Mehefin, 1996 - 2008. Cedwir pob hawl.
Caniateir islwytho'r testun i un cyfrifiadur yn unig. Caniateir gwneud un copi caled ar gyfer eich defnydd chi yn unig. Ni chaniateir gwerthu na ffeirio na benthyg unrhyw ran o'r testun na'i drosglwyddo mewn unrhyw fodd i unrhyw berson neu bersonau arall heb ganiatad ysgrifenedig y cyhoeddwr yn gyntaf. Erlynir y diawled diegwyddor sy'n torri'r amodau hyn mewn llys barn.